Lleoliad:
Ystafell Bwyllgora 3 - Y Senedd
Dyddiad: Dydd Llun, 6 Ionawr 2020
Amser:
13.02 -
14.31
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn:
http://senedd.tv/cy/5878
------
Categori |
Enwau |
Aelodau’r Cynulliad: |
Mohammad Asghar (Oscar) AC Gareth Bennett AC Vikki Howells AC Rhianon Passmore AC Adam Price AC Jenny Rathbone AC Darren Millar AC (yn lle Nick Ramsay AC) |
Swyddfa Archwilio Cymru: |
Adrian Crompton - Archwilydd Cyffredinol Cymru Matthew Mortlock Dave Thomas |
Staff y Pwyllgor: |
Fay Bowen (Clerc) Claire Griffiths (Dirprwy Glerc) |
1.1 Cafwyd ymddiheuriadau gan Nick Ramsay AC, Cadeirydd y Pwyllgor. Roedd Darren Millar AC yn dirprwyo.
1.2 Gofynnodd y Clerc am enwebiadau ar gyfer Cadeirydd dros dro o dan Reol Sefydlog 17.22. Enwebodd Jenny Rathbone AC Darren Millar AC, a gafodd ei gymeradwyo gan y Pwyllgor.
1.3 Croesawodd y Cadeirydd yr Aelodau i’r cyfarfod.
2.1 Nodwyd y papurau.
2.2 Cytunwyd ar y camau a ganlyn:
· Gwasanaethau Gwybodeg GIG Cymru: Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn ymateb i’r Llywodraeth yn gofyn am adroddiad sefyllfa ar y broses benodi ar gyfer y Prif Swyddog Digidol ynghyd â diffiniadau clir o rolau’r Swyddogion Digidol amrywiol ac amserlen ar gyfer y penodiadau hyn.
· Caffael Cyhoeddus: Cytunodd y Cadeirydd i ofyn i Lywodraeth Cymru pa ystyriaethau, os o gwbl, a roddwyd i’r effaith bosibl y gallai unrhyw dariffau yn y dyfodol ei chael ar gaffael.
· Craffu ar Gyfrifon 2018-19: Cytunodd y Cadeirydd i gynghori Llywodraeth Cymru y bydd y Pwyllgor yn dod yn ôl at y mater ynghylch defnydd mewnol o’r Gymraeg yn Llywodraeth Cymru yn ystod gwaith craffu blynyddol ar gyfrifon yn hydref 2020.
· Rheoli Gwastraff:Cytunodd y Pwyllgor i fwydo eu safbwyntiau i ymgynghoriad presennol Llywodraeth Cymru.
· Rheoli Meddyginiaethau:Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am adroddiad cynnydd ar y mentrau i wella presgripsiynau amlroddadwy a lleihau gwastraff ac ar wella’r gwaith o storio meddyginiaethau, gan nodi nad yw’r canllawiau diwygiedig a gafodd eu haddo wedi cael eu cyhoeddi eto.
· Bil Llywodraeth Leol ac Etholiadau (Cymru): Cytunodd y Pwyllgor y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at y Pwyllgor Cyfathrebu, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol gyda’u barn.
· Llywodraethu a Rheolaeth Ariannol mewn Cynghorau Cymuned: Gofynnodd y Pwyllgor i’r llythyr gan Lywodraeth Cymru gael ei anfon ymlaen at y Pwyllgor Cyfathrebu, Cydraddoldeb a Llywodraeth Leol.
· Perthynas Llywodraeth Cymru â Pinewood: Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn am esboniad pellach ar y wybodaeth sydd yn y llythyr.
3.1 Derbyniwyd y cynnig.
4.1 Derbyniodd y Pwyllgor ddogfen friffio gan Swyddfa Archwilio Cymru ar eu Hadroddiad a chytunodd y byddai’r Cadeirydd yn ysgrifennu at Lywodraeth Cymru yn gofyn bod y diweddariad ar Wasanaethau y Tu Allan i Oriau a drefnwyd ar gyfer mis Gorffennaf 2020 hefyd yn cwmpasu’r camau a gymerwyd ar y 10 argymhelliad a gynhwysir yn Adroddiad yr Archwilydd Cyffredinol.
5.1 Trafododd yr Aelodau'r llythyr a hefyd y penawdau o Adroddiad Blynyddol a Chyfrifon Maes Awyr Caerdydd 2018-19, a gyhoeddwyd ddiwedd mis Rhagfyr 2019.
5.2 Cytunodd y Pwyllgor y dylai’r Cadeirydd ysgrifennu at y Llywodraeth, i ofyn am eglurhad pellach ar nifer o faterion, cyn eu sesiwn graffu arfaethedig yn ddiweddarach y tymor hwn.
6.1 Cytunwyd ar y llythyr drafft.
7.1 Rhoddodd yr Archwilydd Cyffredinol wybodaeth i’r Pwyllgor am y Cyfarwyddyd Gweinidogol diweddar.
7.2 Cytunodd yr Aelodau i gynnal sesiwn graffu gyda’r Ysgrifennydd Parhaol i drafod y weithdrefn.
7.3 Cytunodd y Cadeirydd i ysgrifennu at Gyllid a Thollau EM i ofyn am eu barn ar y Cyfarwyddyd Gweinidogol diweddar.
7.4 Cytunodd y Cadeirydd hefyd i ysgrifennu at y Pwyllgor Iechyd, Gofal Cymdeithasol a Chwaraeon a’r Pwyllgor Cyllid yn eu cynghori ynghylch penderfyniad y Pwyllgor a gofyn iddynt graffu ar waith y Gweinidogion perthnasol ar y goblygiadau cyllidebol fel rhan o’r sesiynau craffu cyllideb sydd ar ddod.